ICP logo European flag Title images - volunteers Title images - volunteers
Title images - volunteers
Cliciwch yma i weld y wefan hon yn Saesneg Title images - volunteers
Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd (EVS)

Cynnwys:

PROSIECTAU HIRDYMOR SY'N DERBYN GWIRFODDOLWYR YNG NGHYMRU

ICP Partneriaeth sy'n cydlynu'r gwaith o dderbyn gwirfoddolwyr EVS ar gyfer nifer o brosiectau EVS yng Nghymru. Mae mwyafrif y prosiectau yn para am chwe mis. Pan fyddwn yn gweithredu fel Cydlynydd Derbyn Gwirfoddolwyr, byddwn yn gyfrifol am recriwtio gwirfoddolwyr EVS ac yn gyfrifol am yr holl waith gweinyddu a'r broses o wneud cais am grant. Byddwn yn derbyn gwirfoddolwyr EVS bedair gwaith y flwyddyn - ym mis Ionawr, mis Ebrill, mis Gorffenaf a mis Hydref.

Dyma rai enghreifftiau o'r prosiectau derbyn gwirfoddolwyr EVS yr ydym yn eu cydlynu ar hyn o bryd:

Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro (Rhifau Adnabod EVS: 2006-GB-85/89/91 & 100)

Theatr Fforwm Cymru (Rhif Adnabod EVS: 2006-GB-92)

Canllaw Online/Arlein (Rhif Adnabod EVS: 2007-GB-15)

Sea Trust/Ymddiriedolaeth Môr (Rhif Adnabod EVS: 2006-GB-108)

Canolfan Ieuenctid Tanyard (Rhif Adnabod EVS: 2006-GB-37)

Am wybodaeth bellach ar y prosiectau yma, ewch i DOLENNI CYSWLLT DEFNYDDIOL > EUROPA - Youth - YOUTH programme, os gwelwch yn dda.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn brosiect derbyn gwirfoddolwyr neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Gwirfoddoli hirdymor yng Nghymru gyda'r EVS
Gwirfoddoli hirdymor o Gymru gyda'r EVS
Ffurflen ymholi
Cysylltwch â ni
Dolenni cyswllt defnyddiol
 
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
©ICP partneriaeth 2004-8 Website by AlgolOnline